Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Dydd Mawrth 3 Rhagfyr a dydd Mercher 4 Rhagfyr 2013

Dydd Mawrth 10 Rhagfyr a dydd Mercher 11 Rhagfyr 2013

Dydd Mawrth 14 Ionawr a dydd Mercher 15 Ionawr 2014

***********************************************************************

Dydd Mawrth 3 Rhagfyr 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Ymatebion i’r Papur Gwyn “Rhentu Cartrefi” (30 munud)

·         Dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg (Cymru) (60 munud)

·         Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Addysg (Cymru) (5 munud)

·         Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) (60 munud)

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil. Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. 

·         Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) (5 munud)

·         Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Cyllid y GIG (Cymru) (60 munud)

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil. Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.

·         Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Cyllid y GIG (Cymru) (5 munud)

 

Dydd Mercher 4 Rhagfyr 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)

·         Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

NNDM5358

 

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi â phryder difrifol:

a) yr achosion o droseddwyr yn targedu plant agored i niwed er mwyn cam-fanteisio’n rhywiol arnynt;

b) bod plant sydd ar goll o ofal yn wynebu perygl penodol o gam-fanteisio rhywiol;

c) y dystiolaeth nad yw awdurdodau lleol yng Nghymru hyd yma yn gweithredu’n llawn ganllawiau Llywodraeth Cymru i ddiogelu plant sy'n mynd ar goll o ofal;

d) y gall yr arfer o leoli y tu allan i ardal olygu bod plant sy'n derbyn gofal yn wynebu mwy o berygl o gamdriniaeth a cham-fanteisio.

 

2. Yn cymeradwyo gwaith Prosiect Plant ar Goll Gwent ac yn nodi'r angen am ddata cymaradwy, cyson a dibynadwy ar yr achosion o blant sy'n derbyn gofal sy'n mynd ar goll o gartrefi plant a gofal maeth.

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 10 Rhagfyr 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: PISA 2012 (30 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â’r Bil Dŵr (15 munud)

·         Dadl ar y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2014-15 (60 munud)

·         Dadl ar yr Adroddiad Blynyddol ar Ddatblygu Cynaliadwy (60 munud)

·         Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) (60 munud)

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil. Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. 

·         Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) (5 munud)

 

Dydd Mercher 11 Rhagfyr 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer - Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 14 Ionawr 2014

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Rhoi Polisi Amaethyddol Cyffredin newydd ar waith (30 munud)

·         Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru Rhif 2) 2013 (15 munud)

·         Dadl: Setliadau Refeniw a Chyfalaf Llywodraeth Leol ar gyfer 2014-15 (60 munud)

·         Dadl: Yr Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol (60 munud)

 

Dydd Mercher 15 Ionawr 2014

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer (30 munud)